Rhif y ddeiseb: P-06-1393

Teitl y ddeiseb: Dylid grymuso rhieni i ddewis: Yr hawl i gael eithriad a chyfranogiad cynhwysol yn y rhaglen Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb

Geiriad y ddeiseb:  Mae’r ddeiseb hon yn eiriol dros ddewis rhieni a chyfranogiad cynhwysol yn y rhaglen Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb. Mae’n amlygu pwysigrwydd parchu credoau amrywiol, diogelu hawliau rhieni, a galluogi’r dewis i gael eithriad. Nod y ddeiseb yw meithrin dealltwriaeth a pharch, ac atal gwahaniaethu. Diben y ddeiseb hon yw sicrhau dewis i rieni a hyrwyddo cyfranogiad cynhwysol yn y rhaglen Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb. Mae'n cydnabod y credoau amrywiol sydd gan rieni ac yn pwysleisio pwysigrwydd parchu eu hawliau. At hynny, mae’n mynd i'r afael â phryderon ynghylch diffyg dewis i gael eithriad, a allai amharu ar ymreolaeth rhieni. Trwy ddewis cael eithriad, gall rhieni alinio addysg eu plentyn â'u hargyhoeddiadau crefyddol neu bersonol. Mae'r dull hwn yn meithrin amgylchedd mwy cynhwysol sy'n parchu gwerthoedd a chredoau'r holl deuluoedd o dan sylw. At hynny, arwyddocâd cynnal deialog agored, cyd-ddealltwriaeth a pharch at safbwyntiau amrywiol o fewn y rhaglen Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb. Mae'n eirioli dros fframwaith addysgol sy'n osgoi gwahaniaethu, yn cynnal hawliau rhieni, ac yn annog cyfranogiad gweithredol rhieni yn addysg eu plentyn. Drwy sicrhau cydbwysedd rhwng cynwysoldeb ac ymreolaeth rhieni, gall y rhaglen Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb ,ddarparu ymagwedd fwy cynhwysfawr a pharchus at addysg cydberthynas a rhywioldeb.

 

 


1.        Y cefndir

Mae Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (ACRh) yn elfen orfodol o'r Cwricwlwm newydd i Gymru ar gyfer dysgwyr 3 i 16, ac fe’i sefydlwyd gan Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021. Cafodd y Cwricwlwm i Gymru ei gyflwyno mewn ysgolion cynradd ym mis Medi 2022, cyn iddo gael ei gyflwyno i Flwyddyn 7 a Blwyddyn 8 ym mis Medi 2023, a phob grŵp blwyddyn ychwanegol wedi hynny nes iddo gyrraedd Blwyddyn 11 ym mis Medi 2026.

Mae ACRh yn disodli addysg rhyw a chydberthynas. Roedd addysg rhyw a chydberthynas yn rhan orfodol o’r cwricwlwm sylfaenol mewn ysgolion uwchradd, ac er bod ysgolion cynradd yn cael ei dysgu, ond nid oedd yn orfodol iddynt. Mae ACRh yn orfodol mewn ysgolion cynradd yn ogystal ag ysgolion uwchradd, gyda Deddf 2021 yn ei gwneud yn ofynnol i’r ddarpariaeth honno fod “yn briodol yn ddatblygiadol”.

Yn flaenorol, byddai gan rieni yr hawl i dynnu eu plentyn allan o addysg rhyw nad oedd yn rhan o bwnc o dan y cwricwlwm cenedlaethol. O dan y cwricwlwm newydd, nid yw rhieni’n gallu tynnu eu plant allan o ACRh. Nododd Llywodraeth Cymru ei sail resymegol ar gyfer hyn pan ymgynghorodd ar Sicrhau mynediad i'r cwricwlwm llawn (2019). Yn ei dogfen ymgynghori, dywedodd:

Credwn fod achos cryf sy'n seiliedig ar egwyddor dros warantu y gall pob dysgwr ysgol gael Addysg Grefyddol ac Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb. Er mwyn i ddysgwyr allu elwa'n llawn ar gwricwlwm eang a chytbwys, rhaid iddynt allu manteisio ar bob rhan ohono.

2.     Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Wrth ddarparu ACRh, mae ysgolion yn dilyn cod statudol, sef y Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, a gymeradwywyd yn y Cyfarfod Llawn ar 14 Rhagfyr 2021. Mae cynnwys y Cod yn seiliedig ar linynnau dysgu cysylltiedig bras, sef:

§  cydberthnasau a hunaniaeth;

§  iechyd a lles rhywiol;

§  grymuso, diogelwch a pharch.

Mae canllawiau statudol Llywodraeth Cymru ar ACRh yn dweud:

Dylai ysgolion a lleoliadau feddu ar linellau cyfathrebu clir mewn perthynas ag addysg cydberthynas a rhywioldeb a dylen nhw ymgysylltu â dysgwyr, rhieni, gofalwyr a'r gymuned ehangach, gan roi cyfle iddyn nhw ymgysylltu â'r hyn a ddysgir a'r hyn a addysgir fel rhan o addysg cydberthynas a rhywioldeb.

Mae cyfathrebu'n effeithiol â rhieni a gofalwyr yn barhaus yn ffordd bwysig o feithrin cydberthnasau cadarnhaol er mwyn ymgysylltu â nhw mewn ffordd bwrpasol ac ystyrlon.

Mae'r canllawiau hefyd yn nodi bod yn rhaid i Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb fod yn wrthrychol, yn feirniadol ac yn blwrialiaethol o ran ei chynnwys a'r dull addysgu. Mae’n dweud:

Wrth ddefnyddio'r term plwraliaethol, rydym yn golygu pan fo cwestiynau o ran gwerthoedd yn codi, rhaid i ysgolion a lleoliadau ddarparu ystod o safbwyntiau ar bwnc, a fynegir yn gyffredin mewn cymdeithas. Mae hyn hefyd yn golygu darparu ystod o wybodaeth ffeithiol am faterion sy'n gysylltiedig ag addysg cydberthynas a rhywioldeb. Ym mhob ysgol, pan fo ysgolion yn ystyried credoau neu safbwyntiau penodol, rhaid cynnwys ystod o safbwyntiau ffydd eraill a safbwyntiau anghrefyddol ar y mater.

Cafodd her gyfreithiol a ddygwyd gan rieni o Public Child Protection (Wales) i atal gwersi ACRh gorfodol ei chlywed yn yr Uchel Lys ym mis Tachwedd 2022. Dyfarnodd yr Uchel Lys ar 22 Rhagfyr 2022fod y gwersi yn gyfreithlon. Wrth groesawu’r penderfyniad, dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:

Gall rhieni ddisgwyl i ysgolion gyfathrebu â nhw am eu cynlluniau ar gyfer addysgu Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, a dylai rhieni allu codi unrhyw gwestiynau adeiladol neu bryderon am y cynlluniau.

3.     Camau gweithredu Senedd Cymru

3.1.          Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Cafodd y ffaith y byddai Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn orfodol i bob dysgwr o 3 oed ymlaen a’r ffaith na fyddai gan rieni hawl i dynnu eu plant allan o’r gwersi eu trafod gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wrth iddo graffu ar y Bil Cwricwlwm ac Asesu (gweler pennod 6 o'i Adroddiad Cyfnod 1 ar egwyddorion cyffredinol y Bil. Barn y Pwyllgor oedd y dylai pob plentyn gael mynediad llawn at ddysgu am gydberthnasau a rhywioldeb. Yn ei farn ef, byddai cynnwys hyd yn oed hawl gyfyngedig i dynnu disgyblion yn ôl o’r ddarpariaeth yn peri risg o danseilio’r dull gweithredu hwn. Roedd cefnogaeth y Pwyllgor yn seiliedig ar y ffaith fod ACRh:

§  yn briodol o ran datblygiad;

§  yn wrthrychol, yn feirniadol ac yn blwraliaethol;

§  yn cael ei chyflwyno yn unol â chanllawiau statudol manwl a chlir, a luniwyd gan arbenigwyr, ymarferwyr a phlant a phobl ifanc eu hunain;

§  yn cael ei hategu gan y dysgu proffesiynol, yr adnoddau a’r gefnogaeth arbenigol angenrheidiol.

3.2.        Y Pwyllgor Deisebau

Cafodd y ddeiseb P-05-1096 Dileu Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb o'r elfen orfodol o Fil Cwricwlwm 2020 ei hystyried gan y Pwyllgor Deisebau yn 2021. Yn sgil y gwaith craffu ar Fil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ac yn y ddadl Cyfnod 1 yn y Cyfarfod Llawn – yn ogystal â'r cyfleoedd a fyddai ar gael i'r Aelodau ddiwygio'r Bil – cytunodd y Pwyllgor i gadw golwg ar y ddeiseb. Caeodd y Pwyllgor y ddeiseb yn ei gyfarfod olaf o’r Bumed Senedd fel rhan o’i adolygiad o’r holl ddeisebau yr oedd yn eu hystyried, yng ngoleuni’r ffaith bod etholiad yn yr arfaeth a’r ystyriaeth o’r mater hwn a gafwyd hyd hynny.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.